Ein Stori
Busnes teuluol yw Caws Cenarth a ddechreuwyd gan Gwynfor a Thelma Adams ym 1987 yma, are eu fferm, Glyneithinog, yn nyffryn ffrwythlon ac hardd yr afon Cych. Bu traddodiad hir o wneud caws yn y teulu, yn ymestyn yn ôl dros chwe cenhedlaeth, a chyn hir, magodd Caws Cenarth enw da am ei gaws Caerffili â blas hufennog, ffres.
Daeth Thelma’n wyneb adnabyddus, yn arwain y ffordd o adfywio’r grefft o wneud caws yng Nghymru. Dyddiau yma, mae Gwynfor a Thelma wedi trosglwyddo awenau’r busnes i’w mab, Carwyn, sydd â thalent am ddatblygu cawsiau newydd.
Caws Cenarth yw cynhyrchydd sefydledig hynaf Caws Caerffili Ffermdy Cymreig. Erbyn heddiw, yn ogystal â’r caws Caerffili plaen, mae Caws Cenarth yn cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau gwahanol, gan gynnwys caws tebyg i Brie, Perl Wen, caws gwythiennog glas hufennog, Perl Las a Golden Cenarth, caws rhannol-feddal â blas pwerus, gyda’r grofen wedi’i golchi – ac ennillydd gwobr y Prif Bencampwriaeth yng Ngwobrau Caws Prydain yn 2010.
